Y Grŵp Trawsbleidiol ar Angladdau a Phrofedigaeth

Dydd Llun, 27 Mawrth 2023

Cofnodion Drafft

1. Yn bresennol:

       Mark Isherwood AS (Cadeirydd)

       Deborah Smith, Wordsmith

Communication (Ysgrifennydd)

       Andrew Judd, NAFD

       Philip Blatchly, PR Blatchly

       Rachel Bradburne, NAFD

       Terry Tennens, SAIF

       Abdul Azim-Ahmed (Cyngor Mwslimaidd Cymru)

 

       Kathy Riddick, Dyneiddwyr y DU

       Gordon Swan

       Kate Edwards,

       Gethin Rhys, Yr Eglwys yng Nghymru

       Selima Bahadur, EYST

       Rhys Price, Gwilym Price

       Stephen Tom, Phillip Tom & Sons

       Kirsty Rees

       Rebecca Aylott, NAFD

 

2. Croeso ac ymddiheuriadau

Dechreuodd Mark Isherwood y cyfarfod trwy groesawu pawb i gyfarfod cyntaf 2023.

Dywedodd DS i ymddiheuriadau ddod i law gan y canlynol:

                     Verity Stirling, ar ran Archesgob Cymru

                     Llyr Gruffydd AS

                     Emma Kneebone, 2Wish

 

3. Cymeradwyo’r Cofnodion

Nododd Mark Isherwood i’r cyfarfod blaenorol gael ei gynnal ar 24 Tachwedd 2022 yn y Senedd a bod linc i’r cofnodion drafft wedi’i darparu gyda phapurau’r cyfarfod.

Cafwyd cais cyn y cyfarfod i gywiro’r cofnodion i gynnwys presenoldeb Philip Blatchly. Nid oedd unrhyw ddiwygiadau nac ychwanegiadau eraill i'r cofnodion.

Cynigiodd Stephen Tom y dylid derbyn y cofnodion; fe’i heiliwyd gan Philip Blatchly.

4. Materion sy’n codi

Tynnodd Mark Isherwood sylw’r Grŵp at ymateb Andrew Griffith AS yn dilyn y llythyr a anfonwyd at y Gwir Anrhydeddus John Glen AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, mewn perthynas â rheoleiddio cynlluniau angladdau a defnyddwyr sy’n agored i niwed, ar ôl y cyfarfod diwethaf.

Dosbarthwyd y llythyr hwn cyn y cyfarfod; roedd yn ymwneud â rheoleiddio cynlluniau angladdau a diogelu defnyddwyr, yng ngoleuni methiant darparwyr cynlluniau a goblygiadau i ddeiliaid cynlluniau yr oedd eu dewis ddarparwr ar gyfer cynllun angladd naill ai'n methu â sicrhau cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu wedi dewis peidio â gwneud cais amdani.

Yn ei ymateb, nododd Andrew Griffith AS, Ysgrifennydd Economaidd y Trysorlys, y camau y mae’r Llywodraeth wedi’u cymryd i leihau’r risgiau i ddefnyddwyr a’r camau y mae’r sector wedi’u cymryd i ddarparu ar gyfer defnyddwyr yr effeithir arnynt, ond ni wnaeth unrhyw ymrwymiadau newydd i ddiogelu’r rheini sy'n disgyn drwy'r bylchau, sef rhan ganolog o’r pryderon a fynegwyd gan y Grŵp yn ei lythyr.

Nododd Mark Isherwood AS nad oedd yr ymateb yn ateb y cwestiynau allweddol a ofynnwyd yn y llythyr gwreiddiol, ac felly y byddai angen i’r Grŵp chwilio am ffyrdd eraill o gyfleu’n glir, efallai’n uniongyrchol gyda'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, y prif bwyntiau ynghylch diogelu defnyddwyr sydd wedi colli arian a threfnwyr angladdau sydd wedi colli busnes.

Gwahoddwyd Gordon Swan i roi diweddariad byr ar gyfarfodydd sy’n mynd rhagddynt i ffurfio corff cynrychioliadol newydd ar gyfer darparwyr cynlluniau angladdau, a fyddai’n ymgysylltu â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y mater hwn. Hyd yn hyn, mae 22 o'r 24 darparwr cynlluniau awdurdodedig presennol wedi cytuno i gymryd rhan mewn egwyddor. Mae darparwr cynlluniau newydd ei awdurdodi hefyd, sef Aura Life, sydd wedi nodi ei fod yn awyddus i ymgysylltu â'r gymdeithas.

Aeth Deborah Smith drwy’r camau gweithredu eraill o’r cyfarfod blaenorol, gan gadarnhau bod y prosiect ar gyfer ailddefnyddio beddau yn parhau i symud ymlaen gyda ffocws ar gadarnhau’r angen trwy ddeall faint o le sydd ar ôl ar gyfer claddedigaethau yng Nghymru, a hynny er mwyn llywio’r cynigion i Lywodraeth Cymru.

I gefnogi hyn, mae Martin Birch yn treialu gwaith casglu data ar gapasiti gyda grŵp o gynghorau yn ne Cymru,

Mae Deborah yn cysylltu â pherchnogion mynwentydd eraill ac, yn sgil cyfarfod diweddar ag Abdul Azim-Ahmed (Cyngor Mwslimiaid Cymru) ar waith y mae'r Cyngor yn ei wneud ar y pwnc hwn, gwahoddwyd Abdul-Azim i ymuno â'r Grŵp Trawsbleidiol a chyflwyno yn y cyfarfod hwn.

CAM GWEITHREDU: anfon llythyr rhagarweiniol at Lywodraeth Cymru, i gadarnhau a oes unrhyw waith cyfochrog yn mynd rhagddo yn y Llywodraeth.

Hefyd yng nghofnodion y cyfarfod blaenorol, penderfynwyd y byddai Deborah yn gwylio am gyfleoedd i ymgysylltu ag adolygiad Comisiwn y Gyfraith o gyfraith claddu ac amlosgi yng Nghymru a Lloegr. Mae cyfle cyntaf wedi codi ar ffurf cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin, ym mis Mai; bydd Mark Isherwood AS yn cae gwahoddiad i’r cyfarfod hwn fel cadeirydd y Grŵp.

5. Siaradwr: Abdul-Azim Ahmed, Cyngor Mwslimiaid Cymru – canllawiau drafft i lunwyr polisi ar ailddefnyddio beddau a’r ffydd Fwslimaidd.

Mae Mark Isherwood AS, Deborah Smith a Martin Birch wedi cael trafodaethau cynhyrchiol yn ystod yr wythnosau diwethaf ag Abdul-Azim Ahmed, o Gyngor Mwslimiaid Cymru, ar waith y mae’r Cyngor wedi bod yn ei wneud ynghylch ailddefnyddio beddau yn y ffydd Fwslimaidd. Rhoddodd Abdul-Azim gyflwyniad i'r Grŵp ar y gwaith hyd yma, y camau nesaf disgwyliedig a sut y gallai'r Grŵp gefnogi'r gwaith yn y dyfodol.

Esboniodd Abdul-Azim fod y gwahoddiad i gymryd rhan yn arolwg anffurfiol y Grŵp ar y pwnc yr haf diwethaf, lle yr oeddent yn gallu ymgysylltu â rhai themâu a phynciau eang, wedi arwain y Cyngor i benderfynu dilyn darn o waith a fyddai’n arwain at farn grefyddol ar y pwnc.

Mae hon bellach wedi cael ei drafftio a’i chytuno'n fras gan ysgolheigion Mwslimaidd, felly mae bellach yn cychwyn ar gyfnod o sgwrs cymdeithas sifil yn y gymuned Fwslimaidd yng Nghymru. Nododd Abdul-Azim mai ail-gladdu oedd y norm i Fwslimiaid yn y DU mewn canrifoedd blaenorol ac, yn wir, mae’n digwydd o hyd mewn rhai mannau eraill yn y byd. Fodd bynnag, mae llawer o Fwslimiaid yn teimlo'n anghyfforddus am y mater, oherwydd yn y ffydd Islamaidd mae corff person ymadawedig yn cael ei drin fel pe bai'n dal i fyw.

I ailddefnyddio beddau fod yn dderbyniol yn y ffydd Fwslimaidd, rhaid i unrhyw weddillion a gladdwyd yn flaenorol yn y lleoliad fod wedi pydru’n llawn, a bydd amodau lleol yn effeithio ar faint mae hynny’n cymryd. Felly, mae'n bosibl y bydd hynny’n fater i’w benderfynu yn lleol. Wedi ymchwil sylweddol a gwrando ar leisiau ysgolheigaidd, yr opsiwn i 'godi a dyfnhau' fyddai'r un a ffafrir.

Yr elfen anoddaf, sydd bron yn llinell goch i’r ffydd Fwslimaidd, fyddai datgladdu gweddillion a’u trosglwyddo i safle newydd, oherwydd mae hyn yn cael ei weld yn anurddasol.

Pwysleisiodd Abdul-Azim hefyd y byddai'n bwysig iddi fod yn glir bob amser pwy sydd wedi'i gladdu mewn bedd penodol, a bod yn rhaid mynd i'r afael â materion yn ymwneud â hyd y les ar gyfer mannau claddu.

Mae Cyngor Mwslimiaid Cymru bellach yn gweithio tuag at ryddhau dogfen bolisi a dogfen sgwrs gymunedol, a byddai'n gwerthfawrogi cefnogaeth y Grŵp gyda hyn unwaith y bydd y drafft wedi'i gyhoeddi, a allai gynnwys rhagair gan Mark Isherwood fel cadeirydd y Grŵp.

CAM GWEITHREDU: Abdul-Azim i gynghori Deborah Smith ynghylch pryd y gall cymorth y Grŵp Trawsbleidiol gael ei ddarparu.

6. Trafodaeth: Defnyddio post-mortemau digidol yn y DU

Dywedwyd wrth y cyfarfod fod oedi wrth gynnal post-mortemau mewn rhai mannau yn y DU yn cyfrannu'n sylweddol at oedi rhwng marwolaeth ac angladd.

Ni ellir pennu dyddiad angladd hyd nes y bydd y person ymadawedig yn cael ei ryddhau gan y Crwner. Mae rhai gwasanaethau crwner yn y DU yn newid i ddefnyddio post-mortem digidol, a all helpu i leihau’r oedi hwn.

Rhoddodd Deborah Smith y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp ynghylch pa awdurdodau lleol sy’n defnyddio post-mortemau digidol – pob un ohonynt yn Lloegr – a gofynnodd a oedd y Grŵp yn teimlo ei fod yn rhywbeth y dylid ei godi gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.

Nododd Abdul-Azim fod llawer o Fwslimiaid yn anesmwyth ynghylch post-mortemau traddodiadol gan eu bod yn broses fewnwthiol, felly byddai manteision i gymunedau Mwslimaidd yng Nghymru o wneud defnydd helaethach o awtopsiâu digidol.

Adleisiodd Philip Blatchly sylwadau Abdul-Azim a dywedodd nad yw llawer o deuluoedd yn hoffi meddwl am bost-mortem a bod yr opsiwn i gyflymu’r broses hefyd o bosibl yn fuddiol iawn, gan nad oedd oedi o 2-3 wythnos yn anghyffredin.

Nododd Rhys Price fod teuluoedd yng ngofal ei gwmni wedi defnyddio cyfleuster awtopsia digidol Sheffield a bod agwedd anfewnwthiol y broses wedi bod yn gysur iddynt. Credai i gyfleuster yn Abertawe fod yn destun trafodaethau yn y gorffennol. Nododd Rhys hefyd ei fod yn credu bod nifer o opsiynau ar gael i awdurdodau lleol gan iGene, darparwr y gwasanaeth, i gefnogi’r gwaith o’i gyflwyno.

CAM GWEITHREDU: Cytunodd DS i ymchwilio i opsiynau a chadarnhau pa drafodaethau, os o gwbl, sy'n mynd rhagddynt yng Nghymru. Bydd iGene yn cael gwahoddiad i gyfarfod yn y dyfodol ac estynnir gwahoddiad hefyd i Weinidog yn Llywodraeth Cymru i drafod y mater hwn a meysydd ymchwil gweithgar eraill ar gyfer y Grŵp.

7. Diweddariad: Rachel Bradburne (NAFD) i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad Comisiwn y Gyfraith o Gyfraith Claddu ac Amlosgi a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2).          

Rhoddodd Rachel Bradburne o’r NAFD y wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp y bydd Comisiwn y Gyfraith, eleni, yn dechrau

adolygiad hirddisgwyliedig o gyfraith claddu ac amlosgi yng Nghymru a Lloegr. Mae hwn yn bwnc y mae'r Grŵp wedi'i drafod o’r blaen, ac mae bellach yn destun gwaith cwmpasu.

Cyhoeddwyd yr adolygiad gyntaf yn 2016, ond dim ond yn 2022 y sicrhawyd cyllid ar ei gyfer. Bydd yn cwmpasu ystod eang o adrannau llywodraeth a themâu, gan gynnwys rheoliadau sy’n ymwneud â dulliau gwaredu presennol (claddu ac amlosgi) ac yn y dyfodol, megis resomeiddio a chompostio dynol. Bydd hefyd yn ymdrin â materion yn ymwneud â gweddillion amlosgedig, hawlogaeth i drefnu angladd a phynciau eraill; felly, bydd yn waith hynod gynhwysfawr. O’i gwblhau, bydd y Llywodraeth yn cael penderfynu pa agweddau ar argymhellion yr adolygiad y bydd yn eu datblygu.

Nododd Terry Tennens fod tîm Comisiwn y Gyfraith wedi cyfathrebu mewn ffordd agored ac effeithiol iawn hyd yma.

Croesawodd Philip Blatchly yr adolygiad a’r potensial i ateb cwestiynau sydd gyda ni ers blynyddoedd ynghylch perchnogaeth gweddillion amlosgedig a phwy sy’n cael trefnu angladd – sef rhwybeth sydd yn aml yn achosi cynnen sylweddol mewn teulu. Cytunodd Rachel Bradburne ei bod yn anodd iawn datrys cynnen teuluol ar y pynciau hyn ar hyn o bryd oherwydd diffyg rheoliadau clir.

CAM GWEITHREDU: Gwahodd Mark Isherwood i gael gwahoddiad i gyfarfod â Chomisiwn y Gyfraith ym mis Mai yn Nhŷ’r Cyffredin a Deborah Smith i gadw golwg ar bryd y gall y Grŵp gyflwyno tystiolaeth i’r adolygiad.

Yn olaf, rhoddodd Rachel Bradburne ddiweddariad hefyd ar gyhoeddiad diweddar Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) y Llywodraeth sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cofrestru marwolaethau o bell.

Cytunwyd yn gyffredinol bod y dewis i gofrestru marwolaethau o bell yng Nghymru a Lloegr wedi bod yn un o ganlyniadau cadarnhaol Deddf y Coronafeirws 2020 ac roedd yn rhywbeth y mae’r proffesiwn angladdau, grwpiau profedigaeth, y Llywodraeth a defnyddwyr i gyd wedi mynegi awydd i’w ddiogelu.

Yn wir, ysgrifennodd Mark Isherwood AS, ar ran y Grŵp, at y Swyddfa Gartref ar y pwnc yn 2022.

Methodd ymgais y Llywodraeth i sicrhau bod cofrestru o bell yn cael ei gadw yn yr hirdymor drwy Fil Aelod Preifat, ond, nododd Rachel, mae hwn bellach yn Fil Llywodraeth a bydd yn fwy tebygol o lwyddo.

8. Trafodaeth: Janette Bourne (Cruse) i arwain trafodaeth ar adroddiad y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol ar effaith pandemig COVID-19 ar brofedigaeth a galar – goblygiadau argymhellion i Gymru.

Ym mis Chwefror, cyhoeddwyd adroddiad gan y Ganolfan Genedlaethol Ymchwil Gymdeithasol yn dilyn astudiaeth flwyddyn. Mae’n argymell ailwampio cymorth profedigaeth yn y DU yn sgil COVID-19, yn nodi bylchau hirsefydlog yn y cymorth i bobl mewn profedigaeth, ac yn dod i’r casgliad bod y rhain wedi gwaethygu oherwydd y pandemig. Mae hyn yn dilyn yr argymhellion a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru gan Gomisiwn Profedigaeth y DU a gwaith parhaus fel rhan o Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol Cymru.

Cytunwyd i ymdrin â’r pwnc hwn yn y cyfarfod nesaf gan nad oedd Janette Bourne ar gael, ac mae hi’n ganolog i’r trafodaethau hyn oherwydd ei rhan yn y Fframwaith. Trafodwyd y cyfle i gynnwys y Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol hefyd, gan ei fod wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar ar brofiadau pobl a oedd mewn hosbisau neu a gafodd gofal lliniarol yn ystod COVID-19. Nododd Mark Isherwood y byddai’n arwain dadl ar y pwnc yn y Senedd (am ragor o wybodaeth, cliciwch yma: Senedd unanimously supports Welsh Conservative palliative care motion | The Welsh Conservative Party (conservatives.wales))

Cytunwyd yn gyffredinol y dylai'r Grŵp fod yn annog trafodaethau â llunwyr polisi ar y pwnc hwn.

Nododd Kathy Riddick fod y grŵp Ysbrydolrwydd, Iechyd a Lles yn adolygiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol GIG Cymru yn ystyried y materion hyn ac, ynghyd â Gethin Rhys, cynigiodd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Grŵp yn y cyfarfod nesaf.

CAM GWEITHREDU: Deborah Smith i gynnal trafodaeth ar y cyd â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol ar y pwnc hwn.

CAM GWEITHREDU: Gwahoddiad i Kathy Riddick a Gethin Rhys roi’r wybodaeth ddiweddaraf yng nghyfarfod nesaf y Grŵp.

9. Unrhyw fater arall     

Ni chodwyd unrhyw faterion yn ystod Unrhyw Fater Arall.

10. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Dywedodd Deborah Smith y byddai Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol byr yn cael ei gynnal ar-lein ym mis Mehefin, gyda gwahoddiad i bob aelod o’r Grŵp gymryd rhan, a bod cynlluniau ar y gweill ar gyfer cyfarfod ar y cyd â’r Grŵp Trawsbleidiol ar Hosbisau a Gofal Lliniarol, yn y Senedd, gyda dyddiad ym mis Medi/Hydref i'w gyhoeddi pan gytunir arno.

Nododd Mark Isherwood y byddai angen i ddyddiad/amser y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol fod yn gyfleus i Aelodau o’r Senedd oherwydd bod rheolau’r Grŵp yn ei gwneud yn ofynnol i nifer penodol fod yn bresennol i’r cyfarfod fod â chworwm.

CAM GWEITHREDU: Deborah Smith i weld pa ddyddiad/amser o'r dydd sydd orau ar gyfer cynnal y cyfarfod.

DS/Ebrill 2023